We offer lots of corporate opportunities and are always looking for appropriate partners who can help promote our cause.
Our corporate supporters choose to work with us for a range of reasons. A true partnership for us is one that gives you the opportunity to meet your commercial goals, while playing a key role in helping our organisation provide its vital services to the people who rely on us.
Our Marketing, Communications and Fundraising team is here to work with you. Together we can develop a partnership tailored to the specific needs of your company. We recognise that there are many motivating factors for going into a partnership with a charity, so our starting point will always be to have an open discussion addressing the needs and criteria to assess our collective vision of success.
Want to know more about becoming a corporate partner? Call our team on 01352 870655
Elusen y flwyddyn
Rhowch eich cwmni yng nghalon y gymuned. Mabwysiadwch Gyngor ar Bopeth Sir y Fflint fel Elusen y Flwyddyn . Mae partneriaeth elusen y flwyddyn yn ffordd wych o uno a chymell gweithwyr cyflogedig. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gennych yr holl ddeunyddiau, syniadau am godi arian a chefnogaeth i adeiladu partneriaeth lwyddiannus gyda ni.
Byddwn yn creu amrywiaeth o ddefnyddiau a fydd yn rhoi syniadau cyffrous a chymhellgar i chi am godi arian ac ymgysylltu. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i greu calendr unigryw o weithgareddau. O ddigwyddiadau heriol i syniadau am godi arian yn y swyddfa, i gyfleoedd i wirfoddoli, mae gennym rywbeth i bawb. Mae gennym amrywiaeth o syniadau ysbrydolgar am godi arian ac ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar waith yn barod y gallwch deimlo’n gyffrous amdanynt.
Manteision ein mabwysiadu i fod yn Elusen y Flwyddyn i chi:
Nawdd
Gyda’n gilydd gallwn ddarparu partneriaeth sy’n cyflawni eich amcanion marchnata a’ch gwerthoedd gan hefyd godi arian hanfodol i’n elusen arbennig.
Gwirfoddoli
Mae anghenion ein gwirfoddolwyr yn niferus ac amrywiol ond dyma rai awgrymiadau ynglŷn â sut y bydd eich gweithlu eisiau ein cefnogi ni efallai.
Rhoi o’r Gyflogres
Mae Rhoi o’r Gyflogres yn ffordd hawdd a hyblyg i chi roi rhodd reolaidd o’ch cyflog gros.
Mae hefyd yn ffordd ddoeth ac effeithlon o ran treth i drethdalwyr Prydeinig roi, am fod y rhodd yn cael eu wneud cyn i’r dreth gael ei thynnu allan.
Bydd rhodd o £10 yn costio dim ond £8 i’r trethdalwr arferol, neu ddim ond £6 i’r trethdalwr sydd ar raddfa uwch.
Cefnogwch ni yma ar gyfer Rhoi o’r Gyflogres
I osod eich rhodd, yn syml iawn:
Os byddwch yn newid eich swydd, bydd eich rhodd i ni’n stopio’n awtomatig pan fyddwch yn gadael. Os hoffech barhau i roddi drwy’r gyflogres yn eich safle newydd, rhowch wybod i’ch adran gyflogres newydd.
Rhoddion o nwyddau
Gallai rhodidon o nwyddau gynnwys….
I ganfod rhagor ynglŷn â sut y gallai eich cwmni gefnogi ein gwaith, cysylltwch â mandy.plant@flintshirecab.org.uk neu ffoniwch 01352 870655