Ymgyrchu dros newid

Mae ymgyrchu yn rhan hanfodol o’n gwaith yn Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint. Mae'r profiadau y mae ein cleientiaid yn eu rhannu â ni yn rhoi cipolwg unigryw ar yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn Sir y Fflint a ledled y DU. Drwy gasglu tystiolaeth o achosion bywyd go iawn, rydym yn eiriol dros newidiadau cadarnhaol i bolisïau, arferion a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol, gan helpu i atal eraill rhag cael anawsterau tebyg.

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn:

  • Siarad ar ran cleientiaid
    Codi materion pwysig a sicrhau bod penderfynwyr yn clywed eu lleisiau.
  • Llunio polisi
    Cyfrannu at ddadleuon cyhoeddus a dylanwadu ar ddeddfwriaeth.
  • Cyflawni ymgyrchoedd effeithiol
    Cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol gan Gyngor ar Bopeth ac arwain mentrau lleol sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol trigolion Sir y Fflint.

Pam mae ein llais yn bwysig

Gallwn fonitro tueddiadau a materion sy'n dod i'r amlwg. Gallwn
Nodi achosion sylfaenol problemau ac rydym yn gweithio i ddod o hyd i atebion hirdymor sy'n creu newid gwirioneddol.

Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i ysgogi newid ystyrlon. Boed trwy rannu ein hymgyrchoedd, codi ymwybyddiaeth, neu eiriol dros welliannau polisi, gallwch wneud gwahaniaeth.

Dysgwch fwy am ymgyrchu gyda Chyngor ar Bopeth

https://www.citizensadvice.org.uk/wales/about-us/our-campaigns/