

Yma yn Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyngor sy'n hygyrch i bawb drwy alluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain i gyfathrebu yn eu dewis iaith. Rydym yn cynnig apwyntiadau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw trwy alwad fideo lle byddwn yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o bynciau gan gynnwys Budd-daliadau, Dyled, Cyflogaeth, Defnyddiwr, Tai a Gwahaniaethu. Mae'r gwasanaeth ar gyfer trigolion Sir y Fflint neu bobl sy'n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru os yn chwilio am gyngor am waith a gwahaniaethu. Mae ein tîm o ymgynghorwyr hyfforddedig yno i'ch helpu gyda'ch anghenion cyngor, a byddwn yn trefnu dehonglydd BSL addas i'ch cefnogi yn ystod eich apwyntiad fideo. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw dyfais ar gyfer gwneud galwad fideo, fel ffôn clyfar, tabled, neu gyfrifiadur gyda chamera a siaradwr, ynghyd â mynediad i'r we. I drefnu apwyntiad, llenwch y ffurflen isod ar ein tudalen we a bydd rhywun yn creu apwyntiad ar eich cyfer ac e-bostiwch / postiwch y wybodaeth atoch o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi'r ffurflen yn llwyr, gan gynnwys eich dewisiadau cyfathrebu fel bod gennym bopeth sydd ei angen arnom i'ch cefnogi.